Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Bobl Drawsryweddol ac Anneuaidd

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff gwaith cymdeithasol mewn Timau Cymunedol Anableddau Dysgu ac yn y Tîm Anabledd 0-25. Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu derbyn gan staff gwaith cymdeithasol mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaethau i oedolion, a chynigir lleoedd, os byddant ar gael, ar ôl y dyddiad cau.

Beth yw'r amcanion?

Nod yr hyfforddiant hwn yw datblygu gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl drawsryweddol ac anneuaidd a mwy o wybodaeth am ffyrdd o gynnig cymorth effeithiol. Yn benodol, bydd yn cynnig y canlynol:

  • Cyfle i ailystyried cysyniadau sy'n berthnasol i arferion gwrthwahaniaethol a gwrth-ormesol
  • Ystyried mythau, rhagdybiaethau ac ystrydebau ynghylch pobl drawsryweddol ac anneuaidd
  • Gwybodaeth am yr heriau beunyddiol a brofir gan bobl drawsryweddol ac anneuaidd
  • Gwybodaeth am ba mor gyffredin yw gwahaniaethu a throseddau casineb a brofir gan bobl drawsryweddol ac anneuaidd
  • Ystyried y defnydd o iaith a therminoleg briodol
  • Ystyried deddfwriaeth berthnasol a'i rôl wrth amddiffyn hawliau pobl drawsryweddol ac anneuaidd
  • Ystyried yr arferion gorau o ran cynnwys a grymuso pobl drawsryweddol ac anneuaidd

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant yn cynnig y wybodaeth sydd ei hangen ar weithwyr cymdeithasol i gynnig cymorth mwy effeithiol i bobl drawsryweddol ac anneuaidd.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk