Llyfrau Hanes Gwaith Taith Bywyd
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol Gofal Plant
Beth yw'r amcanion?
Gweithdy ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gwaith cymdeithasol ar draws y Timau Gofal Plant Hirdymor i edrych ar sut i lunio Llyfr Hanes Bywyd o ansawdd da ar y cyd ar gyfer plentyn mabwysiedig a phlentyn sy'n derbyn gofal.
Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr wedi:
- Edrych ar ffyrdd o ddefnyddio Llyfrau Hanes Bywyd a deunyddiau gyda phlant.
- Rhannu ffyrdd o lunio Llyfrau Hanes Bywyd a rhannu gwybodaeth anodd.
- Dysgu am ddull Joy Rees o greu Llyfrau Hanes Bywyd.
- Ystyried canfyddiadau gwaith ymchwil o ran barn plant a mabwysiadwyr o Lyfrau Hanes Bywyd.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Edrych ar sut y gall y dysgu hwn effeithio ar eich gwaith a lle gellir gwneud newidiadau i wella ymarfer ac ansawdd llyfrau hanes bywyd.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
2.5 Awr
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.