Llys Gwarchod

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol a Thimau Camddefnyddio Sylweddau. Bydd ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaethau i oedolion hefyd yn cael eu derbyn a'u cadw ar restr wrth gefn tan ar ôl y dyddiad cau.

Beth yw'r amcanion?

Nod y cwrs hyfforddiant yw gwella sgiliau a gwybodaeth ymarferwyr am fynd ag achos i'r Llys Gwarchod. Yn benodol, bydd yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • Cwmpas a swyddogaeth y Llys Gwarchod.
  • Llythrennedd cyfreithiol - pryd mae achos yn dod o dan gwmpas y Llys Gwarchod
  • Rôl yr ymarferydd wrth fynd ag achos i'r Llys Gwarchod
  • Y Ddeddf Galluedd Meddyliol a diogelu - ystyried galluedd a chydsyniad
  • Disgwyliadau a heriau o ran mynd ag achos i'r Llys Gwarchod
  • Dangos tystiolaeth o'r broses gwneud penderfyniadau – dadansoddi a chyflwyno dadleuon ysgrifenedig
  • Ymarfer sgiliau - paratoi, cyflwyno, ac amddiffyn datganiad yn y Llys Gwarchod.

 

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant yn cefnogi arferion effeithiol lle mae angen i weithwyr cymdeithasol ystyried mynd ag achos i'r Llys Gwarchod.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk