Mentora Gweithwyr Cymdeithasol yn eu Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol Cymwysedig sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, Uwch-ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol, Arweinwyr Proffesiynol a Rheolwyr Tîm (sy'n gymwysedig i weithio ym maes Gwaith Cymdeithasol) sy'n dymuno bod yn fentoriaid i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso sydd yn eu blwyddyn gyntaf o ymarfer.

Beth yw'r amcanion?

Sicrhau bod gan y Cyfranogwyr:

  • Rôl a Diben Mentora - bydd y cyfranogwyr yn deall gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y Flwyddyn Gyntaf o Ymarfer, cyfrifoldebau, datblygu cymhwysedd a meithrin hyder a'r cysylltiadau â safonau galwedigaethol a Chodau Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol.
  • Egwyddorion Mentora – bydd y cyfranogwyr yn deall y broses, y gwerthoedd a'r berthynas rhwng goruchwylio, hyfforddi a mentora. Byddant yn deall ac yn rheoli ffiniau, a fydd yn cymell ac yn grymuso'r mentorai.
  • Rhoi Mentora ar Waith – bydd y cyfranogwyr yn deall y sgiliau sy'n gysylltiedig â mentora gan gynnwys rhyngweithio, gwrando, hwyluso, hybu rhwydweithiau, paratoi, hunanwerthuso a phennu amcanion.
  • Y Contract Mentora - bydd y cyfranogwyr yn deall diben y contract mentora a'r wybodaeth y dylid ei chynnwys ar gyfer y mentor a'r mentorai.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y mentoriaid yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth yn ymwneud â'r broses fentora a fydd yn eu galluogi i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r rôl fentora er mwyn cefnogi datblygiad gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk