Myfyrio Beirniadol Mewn Grym
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Hwn yw'r cyntaf mewn Cyfres o 3 Gweithdy Datblygu ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn eu Blwyddyn Gyntaf yn eu Swydd. Hefyd mae'n bwysig nodi fod y gweithdai hyn yn paratoi gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso ar gyfer y gwaith sydd i'w gwblhau yn y Rhaglen Atgyfnerthu yn eu hail flwyddyn yn eu swydd.
Beth yw'r amcanion?
Sicrhau bod gan y Cyfranogwyr:
- Dealltwriaeth o'r gwahaniaethau rhwng myfyrio a myfyrio beirniadol; ymchwilir i hyn drwy ystyried y diffiniadau a thrwy ddadansoddi dyfnder a phwysigrwydd cymhwyso myfyrio beirniadol at arferion; myfyrio ar lefelau gwahanol, a hefyd ystyried sut y gellir defnyddio'r rhain i gyfrannu at farn broffesiynol mewn asesiadau.
- Cyfle i ymchwilio i fodelau myfyrio beirniadol; bydd hyn yn caniatáu i'r cyfranogwyr ddatblygu gwybodaeth a seiliwyd ar waith; cael cyfle i ddatblygu gwybodaeth am wahanol fodelau myfyrio personol y gallant eu defnyddio mewn asesiadau ac wrth weithio.
- Ymchwiliad o ran arferion uniongyrchol a myfyrio beirniadol; bydd hyn yn cynnwys cysylltu damcaniaeth ag arferion o ran y gallu i ymchwilio i ffactorau megis y risg o niwed a chamdriniaeth i oedolion a phlant; atebolrwydd proffesiynol; myfyrio fel ymarferwr cymwys.
- Cyfle i ystyried ffyrdd o ddatblygu sgiliau myfyrio ar arferion ar lefel ddyfnach; gweithio'n fwyfwy annibynnol mewn sefyllfaoedd cymhleth; sicrhau bod meddwl yn feirniadol ac ymagweddau cyfannol yn rhan annatod o'r arferion; ystyried a gwerthuso eich arferion eich hun.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd y ddealltwriaeth sydd gan weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso o feddwl yn feirniadol yn gwella a byddant yn datblygu rhagor o sgiliau yn y maes. Byddant yn gallu defnyddio ymagweddau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ganlyniadau i gyflawni ystod o asesiadau gan gydweithio ar yr un pryd â defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol eraill.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Cost:
Dim Tâl
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk