Sgiliau Llys ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Bydd staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn Timau Cymunedol Anableddau Dysgu a Thimau Atgyfeirio Canolog yn cael blaenoriaeth. Bydd ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol mewn timau eraill yn cael eu derbyn a'u cadw ar restr wrth gefn tan ar ôl y dyddiad cau.
Beth yw'r amcanion?
Mae'r cwrs yn rhoi trosolwg i gyfranogwyr o'r llys a'r prosesau cyfreithiol ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, cynghorion allweddol ar sut i baratoi tystiolaeth o ansawdd da a chael eu croesholi. Mae'r cwrs yn nodi camgymeriadau cyffredin a sut i'w hosgoi drwy ddefnyddio canllawiau arfer gorau. Bydd yr hyfforddiant yn cynnig cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ehangach mewn perthynas â'r canlynol:
- Y gwahanol fathau o lys a sut y mae'r gyfraith yn cael ei chymhwyso
- Pam a phryd y mae'n rhaid i weithwyr proffesiynol fynd i'r llys ym maes gofal cymdeithasol i oedolion
- Termau a chysyniadau cyfreithiol allweddol
- Beth yw tystiolaeth dda
- Sut i baratoi i fynd i'r llys
- Beth sy'n digwydd yn y llys
- Camgymeriadau cyffredin a sut i'w hosgoi
- Bod yn hyderus wrth roi tystiolaeth
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yr hyfforddiant yn cefnogi cyfranogwyr i ymarfer yn fwy effeithiol wrth lunio adroddiadau a mynd i'r llys.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk