Arweinyddiaeth Dosturiol
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Holl reolwyr Gwasanaethau Plant, Rheolwyr Cynorthwyol, gan gynnwys gwasanaethau preswyl a seibiant, y trydydd sector/sector annibynnol.
Beth yw'r amcanion?
Erbyn diwedd yr hyfforddiant bydd y cyfranogwyr wedi cyflawni'r canlynol:
- Archwilio beth yw Arweinyddiaeth Dosturiol a bod yn hyderus wrth ei roi ar waith.
- Archwilio sgiliau gwrando cyson, dealltwriaeth, cydymdeimlo a helpu o fewn rheolaeth ac arweinyddiaeth
- Archwilio diogelwch seicolegol fel dull o weithio iddyn nhw eu hunain a'r staff y maen nhw'n eu rheoli
- Archwilio'r cysylltiadau rhwng arweinyddiaeth dosturiol , seicoleg bositif ac ymwybyddiaeth ofalgar
- Archwilio rôl myfyrio wrth gefnogi eu harweinyddiaeth dosturiol
Bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i ddatblygu rhai sylwadau ar arweinyddiaeth dosturiol a fydd yn cael eu defnyddio fel offer dysgu o fewn ail hanner yr hyfforddiant
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd y cynrychiolwyr yn fwy gwybodus i gyflawni eu rolau rheoli
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.