Cyflwyniad i Ddysgu Ymarfer ac Asesu Ymarfer ym maes Gwaith Cymdeithasol
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr cymdeithasol cofrestredig a chymwysedig ag o leiaf ddwy flynedd o brofiad o ymarfer ar ôl cymhwyso sydd â diddordeb mewn bod yn 'Addysgwyr Ymarfer' cymwysedig. Mae'n rhaid i weithwyr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso ers Ebrill, 2016 fod wedi cwblhau'n llwyddiannus y Rhaglen Atgyfnerthu cyn iddynt wneud cais. Mae'n gwrs ôl-raddedig 30 credyd ar Lefel Meistr 7. Hefyd mae'r cwrs hwn yn gofyn am asesiad parhaus o fyfyriwr gradd neu radd meistr ym maes gwaith cymdeithasol a fydd yn cael ei leoli yng ngweithle'r ymgeisydd am 80, 90 neu 100 o ddiwrnodau.
Beth yw'r amcanion?
- Deall a gwerthfawrogi'n feirniadol y cefndir o ran polisi i ddatblygiadau ym maes gwaith cymdeithasol, deddfwriaeth berthnasol, Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a'r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol a gofynion ymarfer proffesiynol.
- Deall a chydnabod pwysigrwydd dulliau dysgu, addysgu a theori dysgu oedolion.
- Deall a chydnabod effaith gwahaniaethu a chamwahaniaethu, a thrwy hynny hyrwyddo tegwch a chyfiawnder wrth asesu cymhwysedd a dysgu ymarfer.
- Fel Addysgwr Ymarfer, deall a dangos rôl theorïau, dulliau ac ymchwil yn ymwneud â gwaith cymdeithasol o ran ategu ymarfer gwaith cymdeithasol.
- Arddangos y gallu i baratoi ar gyfer asesu a goruchwylio myfyrwyr a chyflawni hynny.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i'w galluogi i ddod yn Addysgwyr Ymarfer cymwysedig, gan gyfrannu at ddysgu myfyrwyr gwaith cymdeithasol mewn modd cynlluniedig ac effeithiol a thrwy hynny sicrhau bod modd ffurfio barn ddoeth ynghylch cymhwysedd myfyriwr. Hefyd bydd yn rhoi tystiolaeth i weithwyr cymdeithasol o ddatblygiad proffesiynol parhaus er mwyn bodloni gofynion ailgofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
5 Diwrnod
Cost:
Am Ddim
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk