Rhaglen Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, y Brifysgol Agored
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae Adran Cymunedau ac Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi cyfleoedd i staff perthnasol wneud cais am nawdd rhannol ar gyfer Rhaglen Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol y Brifysgol Agored.
Beth yw'r amcanion?
- Blwyddyn gyntaf y rhaglen - 'Cyflwyno Iechyd a Gofal Cymdeithasol'; a 'Sylfeini Arferion Gwaith Cymdeithasol'. Bydd y modiwlau hyn yn bwrw golwg dros drefniadaeth gofal cymdeithasol yn y DU ac yn datblygu ymwybyddiaeth o wahanol elfennau arferion gwaith cymdeithasol da.
- Ail flwyddyn y rhaglen – 'Cyfraith Gwaith Cymdeithasol’; ac 'Arferion Gwaith Cymdeithasol Cymhwysol' (gan gynnwys lleoliad 90 diwrnod). Bydd y modiwlau hyn yn archwilio'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywio ac yn rheoleiddio penderfyniadau ynghylch gofal cymdeithasol, yn rhoi sylw i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol a'r gwerthoedd a'r sgiliau yn y broses gwaith cymdeithasol.
- Mae trydedd blwyddyn y rhaglen yn gofyn am gwblhau dau fodiwl – 'Ymarfer Gwaith Cymdeithasol Critigol' (gan gynnwys lleoliad 90 diwrnod) ac un o'r modiwlau dewisol canlynol sy'n ymwneud â maes gwasanaeth yr aelod o staff: ‘Bywydau Ifanc, Rhianta a Theuluoedd’; ‘Agweddau at Iechyd Meddwl’; ‘Ymchwilio i Iechyd a Gofal Cymdeithasol’; ‘Arwain, Rheoli, Gofalu’.
Bydd pwyslais ar gefnogi dysgu annibynnol ac arweiniad ynghylch ffynonellau gwybodaeth i'w darllen a'u cloriannu. Bydd cwblhau'r modiwlau hyn yn llwyddiannus yn fodd i staff gymhwyso yn Ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol ac ymgofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn gweithio yn y maes.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Gall staff gofal cymdeithasol sydd â phrofiad addas barhau â'u datblygiad proffesiynol a chymhwyso'n Ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol, gan gyfrannu at amcanion recriwtio a chadw staff.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
3 Blynedd
Cost:
Disgwylir i'r myfyriwr ariannu'r cymhwyster hwn yn rhannol
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.