Cynllunio Gofal
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Yr holl staff gofal yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys Gofal Preswyl a Gofal Cartref.
Beth yw'r amcanion?
Meithrin sgil mewn dylunio a chydgysylltu gofal sy'n canolbwyntio ar y canlyniadau a nodir gyda'r unigolyn sy'n derbyn gofal, drwy gynnal trafodaeth ddwyffordd i gyflawni, cynnal a gwella llesiant y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau gofal ffurifol.
Nod y cwrs yw helpu staff i wneud y canlynol:
- Deall yr hyn y mae'r term 'Cynllun Gofal Personol' yn ei olygu i ni
- Deall yr hyn y mae'r term 'Canolbwyntio ar Ganlyniadau' yn ei olygu
- Gwybod sut i fesur a gwerthuso effeithlonrwydd y gofal a ddarperir
- Gwybod sut i lunio cynllun sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd chwarae rôl
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Gan ddefnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd; mi fydd staff yn anelu at:
- Darparu cynlluniau gofal a chymorth gwell sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau
- Cael sgyrsiau gwell, mwy ystyrlon gydag unigolion am eu dymuniadau a'u canfyddiadau o'r hyn y mae bywyd da yn ei olygu iddyn nhw
- Gwella gofal drwy sicrhau bod canlyniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael eu bodloni o fewn darpariaeth gofal
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Cost:
Dim Tâl
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.