Alcohol a Sgrinio
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Staff yr Awdurdod Lleol a staff y sector annibynnol sy'n cynnig cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth sydd â phroblemau alcohol.
Beth yw'r amcanion?
Nod y cwrs yw cynnig y canlynol i'r cyfranogwyr:
- Gwell dealltwriaeth o alcohol a'i effeithiau
- Cyfle i roi sylw i agweddau at alcohol a chanfyddiadau o alcohol a sut mae hynny'n effeithio ar y defnydd ohono
- Gwell dealltwriaeth o gyngor a gwybodaeth sylfaenol am leihau niwed
- Mwy o wybodaeth am gyfrif unedau alcohol
- Datblygu sgiliau sy'n gysylltiedig â defnyddio offeryn sgrinio at ddiben atgyfeirio
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yn cynnig i'r staff perthnasol gyfle i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i gynnig cymorth effeithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth sydd â phroblemau alcohol.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
3 Awr
Cost:
Dim Tâl
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.