Briwiau Pwysedd a Hyfywedd Meinwe
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae’r Hyfforddiant Gofal Arwynebedd Pwysedd hwn wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr cymorth sydd angen diweddaru eu gwybodaeth a’u sgiliau ar ofal ac atal arwynebedd pwysedd.
Beth yw'r amcanion?
Mi fydd wlserau pwysedd yn digwydd pan mae'r ardal leol o’r croen a’r meinwe oddi tano yn cael ei difrodi oherwydd pwysedd parhaus, ffrithiant, neu rym cneifio. Gellir atal y rhan fwyaf o wlserau pwysedd gydag ymyrraeth a chanfod cynnar. Bydd y cynrychiolwyr sy’n mynychu yn cael dealltwriaeth drylwyr o’r pwnc i’w helpu i leihau’r siawns o wlserau ffurfio ac i wella unrhyw driniaeth sy’n ofynnol ar gyfer y cleifion/cleientiaid yn eu gofal.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys y canlynol:
- Gofal arwynebedd pwysedd a hyfywedd meinwe
- Atal wlserau pwysedd
- Asesiad gwybodaeth am y pwnc
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
3 Hwrs
Cost:
Am ddim
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.