Canolbwyntio ar y Person
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Staff gofal cymdeithasol newydd a/neu brofiadol mewn gwasanaethau gofal preswyl, nyrsio a chartref lle mae angen dealltwriaeth o waith sy'n canolbwyntio ar y person.
Beth yw'r amcanion?
Bydd y pynciau a gwmpesir gan y cwrs hwn yn cynnwys:
- Dealltwriaeth o Ofal sy'n Canolbwyntio ar y Person
- Llunio cynllun gofal unigol
- Edrych ar y darlun 'cyflawn'
- Cyfrinachedd a llywodraethu gwybodaeth
- Sut y gall arferion gwaith effeithio ar yr unigolyn rydych yn ei gefnogi
- Ffiniau proffesiynol
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Nod y cwrs yw darparu'r sgiliau i wneud gwahaniaethau amlwg i unigolion y mae'r staff gofal yn eu cefnogi. Er mwyn darparu gofal sy'n canolbwyntio ar anghenion, dymuniadau a dewisiadau unigolion ac sydd wedi'i deilwra iddynt, mae angen gwybodaeth, profiad a hyfforddiant ychwanegol.
Hyd y cwrs:
Hanner diwrnod
Cost:
Am ddim
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.