Cyffuriau sy'n Gwella Perfformiad a Delwedd (IPED)
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Yr holl staff sy'n gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion sy'n defnyddio neu sy’n ystyried defnyddio Steroidau a Chyffuriau sy'n Gwella Delwedd. Gall hyn gynnwys yr holl ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol, a darparwyr gwasanaethau tai, cam-drin domestig, yr heddlu, cyflogaeth, hyfforddiant, addysg a chyfleusterau hamdden, a hoffai gael rhagor o wybodaeth ynghylch diwylliant ac arferion y grŵp hwn o ddefnyddwyr.
Beth yw'r amcanion?
Erbyn diwedd y cwrs, dylai’r dysgwyr fod yn gallu gwneud y canlynol:
- Diffinio Steroidau a Chyffuriau sy'n Gwella Delwedd, pa mor gyffredin ydynt a'r tueddiadau o ran eu defnyddio
- Esbonio sut y mae Steroidau a Chyffuriau sy'n Gwella Delwedd yn gweithio
- Archwilio'r cymhellion dros ddefnyddio Steroidau a Chyffuriau sy'n Gwella Delwedd
- Dadansoddi gwahanol ffynonellau Steroidau a Chyffuriau sy'n Gwella Delwedd
- Archwilio sut y mae Steroidau a Chyffuriau sy'n Gwella Delwedd yn cael eu defnyddio
- Ymchwilio i'r wybodaeth, cyngor a'r ymyrraeth briodol y gellir eu defnyddio i sicrhau bod Steroidau a Chyffuriau sy'n Gwella Delwedd yn cael eu defnyddio'n fwy diogel
- Llwybrau atgyfeirio at wasanaethau camddefnyddio sylweddau
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch steroidau a chyffuriau sy'n gwella delwedd, nodi rhai o'r materion sy'n gysylltiedig â mathau o ddefnydd cyffuriau, gan roi pwyslais ar leihau niwed i ddefnyddwyr.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
Hanner Diwrnod
Cost:
Dim Tâl
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.