Budd-daliadau Trosolwg
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant.
Beth yw'r amcanion?
Erbyn diwedd y cwrs bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn gallu gwneud y canlynol:
- Gwirio budd-daliadau a helpu pobl i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
- Deall beth fyddai'n sbarduno cais am Gredyd Cynhwysol ar gyfer pobl sydd ar fudd-daliadau etifeddol.
- Deall cyfnodau asesu a newidiadau mewn amgylchiadau, a sut y maent yn cael effaith ar daliadau hawlydd.
- Bod yn ymwybodol o'r Cap Budd-daliadau a'r rheol dau blentyn a gallu nodi pryd y gallai teulu gael ei eithrio.
- Gallu nodi unigolion a allai hawlio Taliad Annibyniaeth Bersonol neu Lwfans Byw i'r Anabl.
- Deall y meini prawf ar gyfer gwneud cais llwyddiannus am Lwfans Gofalwr.
- Gwybod beth i'w wneud os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud penderfyniad anghywir.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn deall y System Budd-daliadau yng Nghymru yn well a byddant yn gallu cefnogi teuluoedd incwm isel wrth ystyried eu sefyllfa ariannol.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 diwrnod (dros 2 ddiwrnod yn 09.30yb-12.30yp gydag egwyl)
Cost:
N/A
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.