Cyflwyniad i Gyfweliad Ysgogol
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Yr holl staff sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Plant, gan gynnwys Maethu a Mabwysiadu, a'r timau Cam Nesaf.
Beth yw'r amcanion?
Bydd cyfranogwyr yn:
- Datblygu eu sgiliau gwrando empathetig (OARS)
- Cael dealltwriaeth well o safbwynt defnyddwyr y gwasanaeth, a'u grymuso i ddefnyddio eu cryfderau a'u cymhelliant naturiol i wneud newidiadau
- Bod mewn sefyllfa well i rymuso defnyddwyr y gwasanaeth i deimlo'n barod, yn fodlon ac yn abl i wneud newidiadau i'w hymddygiadau/ffyrdd o fyw
- Teimlo'n fwy hyderus ac yn fwy cymwys wrth ddefnyddio eu sgiliau cyfathrebu
- Ymarfer sgiliau cyfweld ysgogol mewn amgylchedd diogel, gan ddefnyddio dulliau i fesur y defnydd
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd cyfranogwyr yn teimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio eu sgiliau gwrando empathetig i gynyddu'r tebygrwydd o ganlyniadau gwell i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Gellir trosglwyddo'r sgiliau ar draws gwahanol feysydd gwaith.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Cost:
Dim Tâl
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.