Datblygiad yr Ymennydd a Chamddefnyddio Sylweddau
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Pob aelod o staff a allai ddod i gysylltiad â phobl ifanc sy'n defnyddio cyffuriau ac alcohol.
Beth yw'r amcanion?
- Dod i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i bobl ifanc yn ystod y glasoed
- Dod yn gyfarwydd â'r sgiliau ar gyfer sgrinio'n sylfaenol ar gyfer sylweddau ac atgyfeirio at wasanaethau priodol
- Ymarfer drwy ddefnyddio technegau ymyrryd
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd y staff yn cael cyflwyniad i ddatblygiad pobl ifanc yn ystod y glasoed ac i gamddefnyddio sylweddau, a golwg gyffredinol ar ddefnyddio technegau ymyrryd wrth weithio gyda phobl ifanc ym maes camddefnyddio sylweddau.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
4 Awr
Cost:
Dim Tâl
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.