Effaith Trawma
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Yr holl staff sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc
Beth yw'r amcanion?
Bydd y sawl sy'n bresennol yn dysgu:
- Beth yw trawma?
- Sut mae trawma cynnar yn effeithio ar ddatblygiad plant?
- Model Llaw o'r Ymennydd a theori polyvagal.
- Dealltwriaeth o'r modd nad yw sgoriau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn ddigon i ragfynegi canlyniad.
- Trawma rhwng cenedlaethau a thrawma seiliedig ar hil
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd gan y sawl sy'n bresennol fwy o wybodaeth i nodi trawma cynnar ac i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
3.5 Awr
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.