Egwyddorion Adrodd a Chofnodi

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Holl staff Gwasanaethau Plant, Maethu a Mabwysiadu, y Tîm o Amgylch y Teulu, Gwasanaeth dan 25 oed, y trydydd sector a'r sector annibynnol, yn ogystal â Gwasanaethau Gofal Cartref i Oedolion a staff preswyl.

Beth yw'r amcanion?

Erbyn diwedd y cwrs, bydd y rhai sy'n cymryd rhan wedi:

  • Cael mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd adrodd a chofnodi
  • Deall sut y gellir defnyddio adrodd a chofnodi i lywio ymarfer
  • Deall sut i ddehongli a defnyddio'r data / y wybodaeth a ddarperir o bosibl yn sgil adrodd a chofnodi
  • Deall sut i ddefnyddio adrodd a chofnodi i fonitro, i newid ac i wella ymarfer

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Erbyn diwedd y cwrs bydd gan y cyfranogwyr well gwybodaeth am gadw cofnodion a dealltwriaeth o bwysigrwydd gwneud hynny, a byddant wedi datblygu sgiliau ar gyfer eu hymarfer yn y maes hwn.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

3 Awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.