Epilepsi a Meddyginiaeth Achub
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio gyda a chefnogi'r rhai sydd ag epilepsi
Beth yw'r amcanion?
Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu theori yn unig, sy'n ymwneud â'r canlynol:
- Beth yw epilepsi
- Pethau sy’n gallu peri epilepsi
- Diagnosis clinigol a dosbarthiadau trawiadau
- Opsiynau triniaeth
- Dewisiadau ffordd o fyw ac asesu risg
- Cymorth cyntaf sylfaenol
- Sefyllfaoedd brys: cyflwr epileptig, marwolaeth annisgwyl sydyn mewn epilepsi (SUDEP) a meddyginiaethau achub
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Mae rhoi meddyginiaeth frys/achub yn canolbwyntio ar yr unigolyn a dylid cael ei ategu drwy'r amser gan gynllun achub epilepsi ar gyfer unrhyw unigolyn sydd angen meddyginiaeth achub arno.
Hyd y cwrs:
Un diwrnod
Cost:
Am ddim
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.