Llunio Adroddiadau a Chofnodi Achosion

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Bydd staff gwaith cymdeithasol mewn Timau Adnoddau Cymunedol yn cael blaenoriaeth ond bydd ceisiadau hefyd yn cael eu derbyn gan staff gwaith cymdeithasol mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaethau i oedolion.

Beth yw'r amcanion?

Nod yr hyfforddiant yw datblygu gwybodaeth a sgiliau staff mewn perthynas â llunio adroddiadau a chofnodion achosion effeithiol. Yn benodol, bydd yn helpu staff i:

  • Ysgrifennu'n hyderus fel sy'n ofynnol gan God Ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
  • Ysgrifennu am alluedd yn effeithiol gan ddefnyddio iaith briodol o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
  • Ysgrifennu'n hyderus am ddiogelu a risg, gan ddefnyddio iaith sy'n ystyrlon ar gyfer y broses rheoli risg.
  • Ysgrifennu'n broffesiynol, yn gryno, yn gywir ac yn glir at ddibenion atebolrwydd.
  • Mynegi rhesymau a phenderfyniadau yn glir.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant yn helpu'r rhai sy'n cymryd rhan i lunio adroddiadau a chofnodion achosion cywir a llawn gwybodaeth sy'n bodloni gofynion cyfreithiol.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk