Rheoli Risg a Disgwyliadau
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Holl staff Gwasanaethau Plant, Maethu a Mabwysiadu, y Tîm o Amgylch y Teulu, gwasanaeth dan 25 oed, y trydydd sector a'r sector annibynnol
Beth yw'r amcanion?
Datblygu dealltwriaeth o gyngor priodol ynghylch lleihau niwed, a chael dealltwriaeth dda o'r hyn y dylai defnyddwyr gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau ei ddisgwyl wrth gael eu hatgyfeirio at wasanaethau, a chyfeirio at wasanaethau.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd gan y cyfranogwyr fwy o werthfawrogiad o'r hyn sy'n cael ei brofi gan ddefnyddwyr gwasanaeth, a byddant yn gallu eu cefnogi drwy'r broses.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
3 Awr
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.