Troseddu Rhywiol gan Bobl ag Anableddau Dysgu
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Staff gwaith cymdeithasol mewn Timau Cymunedol Anableddau Dysgu ac yn y Tîm Pontio
Beth yw'r amcanion?
Datblygu gwybodaeth a sgiliau cyfranogwyr o ran cynnal asesiadau risg a chreu cynlluniau rheoli gyda phobl ag anableddau dysgu sydd mewn perygl o gyflawni troseddau rhywiol. Yn benodol, bydd yr hyfforddiant yn ymdrin â'r canlynol:
- Ymwybyddiaeth o Droseddwyr Rhyw
- Sut y mae troseddwyr rhyw yn gweithredu
- Troseddwyr rhyw ag anableddau dysgu
- Y gwahaniaeth rhwng diluddiannu ac ymddygiad troseddol a sut i ymateb iddynt
- Asesu Risg
- Rheoli Risg Gymunedol
- Arferion da mewn hunanofal proffesiynol
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd y cwrs yn cynorthwyo gweithwyr cymdeithasol i ymarfer yn effeithiol wrth weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth ag anableddau dysgu sydd mewn perygl o gyflawni troseddau rhywiol.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
Chwech awr dros dau ddyddiad
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk