Ymwybyddiaeth o Ddiabetes

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Anelir y cwrs hwn at weithwyr maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o sut i gefnogi unigolion â diabetes a chydnabod symptomau cyffredin a allai ddangos bod gan berson ddiabetes.

Beth yw'r amcanion?

Mae'r sesiwn hon yn codi ymwybyddiaeth am ddiabetes gan gynnig dealltwriaeth sylfaenol o'r cyflwr. Bydd cyfranogwyr yn dysgu am y mathau o ddiabetes, sut mae'n cael ei reoli, dulliau o ddiagnosis, rhai triniaethau posibl a chymhlethdodau cyffredin a all effeithio ar rai sydd â'r cyflwr.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd cyfranogwyr yn dangos eu dealltwriaeth trwy asesiad ar ddiwedd y sesiwn. 

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

Hanner Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.