Ymwybyddiaeth o Glefyd Parkinson

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Anelir y cwrs hwn at unrhyw un sy'n cefnogi pobl â Chlefyd Parkinson o fewn gwasanaethau Preswyl a Chartref.

Beth yw'r amcanion?

Rhoddir y cwrs hwn mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i ymgeiswyr am Glefyd Parkinson.

Mae'r cwrs yn cynnwys y canlynol:

  • Cyflwyniad i Glefyd Parkinson, gan gynnwys pwy mae'n effeithio a beth sy'n ei achosi.
  • Darparu Gofal i rywun â Chlefyd Parkinson, gan gynnwys rôl y gweithiwr gofal.
  • Trin Clefyd Parkinson, gan gynnwys triniaethau a 6 prif fath o gyffuriau.
  • Cyflwyno Atroffi System Luosog (MSA), gan gynnwys y 3 anhwylder a'r prif symptomau a thriniaethau.
  • Gofal Lliniarol ac Atroffi System Luosog (MSA), gan gynnwys gofal lliniarol, rôl y gweithiwr gofal proffesiynol

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Gan ddarparu dealltwriaeth well o'r clefyd a sut i'w cefnogi.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

3 Awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.