Ymwybyddiaeth o Strôc

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer holl staff maes Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o strôc.  Darperir gwybodaeth hanfodol am sut i adnabod strôc, â'u rheoli ac atal er mwyn sicrhau gofal a chymorth o ansawdd uchel.

Beth yw'r amcanion?

Strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yn y DU, yn ogystal ag un o brif achosion anableddau. Mae ymwybyddiaeth o'r achosion a'r symptomau yn eich helpu i weithredu'n gyflym mewn sefyllfa lle rydych yn amau bod rhywun yn cael strôc. Ac yna yn rhoi'r cyfle gorau iddynt dderbyn y driniaeth sydd ei hangen arnynt a lleihau effaith hirdymor y cyflwr. 

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â'r mathau o strôc, y symptomau a'r ffactorau risg. Yn ogystal â'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer triniaeth, ac effaith hirdymor y cyflw.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

Hanner Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.