Anhwylder Personoliaeth a'r Ddeddf Iechyd Meddwl
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP)
Beth yw'r amcanion?
Cefnogi Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy i archwilio dulliau arfer gorau wrth weithio gydag anhwylder personoliaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Yn benodol, y nodau fydd
- adnewyddu a datblygu gwybodaeth am ystyr anhwylder personoliaeth a'i gyflwyniad
- datblygu gwell dealltwriaeth o risg ac asesu risg gydag unigolion ag anhwylder personoliaeth
- archwilio'r ffordd orau o ymateb ac ymwneud ag unigolion ag anhwylder personoliaeth
- cynyddu gwybodaeth am weithio gydag anhwylder personoliaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yn cefnogi Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy i ymarfer yn effeithiol wrth weithio gyda phobl sydd wedi cael diagnosis o Anhwylderau Personoliaeth.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Cost:
Am Ddim
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk