Anhwylderau Bwyta a'r Ddeddf Iechyd Meddwl
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy a gyflogir gan Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Beth yw'r amcanion?
Mae asesu pobl ag anhwylderau bwyta o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn codi nifer o faterion cymhleth y mae'r hyfforddiant hwn yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Bydd yn cynnig y deilliannau dysgu canlynol.
- Gwell ymwybyddiaeth o wahanol fathau o anhwylderau bwyta a sut y gallent ymgyflwyno.
- Gwell dealltwriaeth o opsiynau triniaeth effeithiol.
- Deall sut mae'r fframwaith cyfreithiol yn berthnasol i anhwylderau bwyta, gan gynnwys cyfraith achosion.
- Deall sut y gallai ymgyflwyniad yr unigolyn effeithio ar y broses asesu a'r defnydd o'r Ddeddf Iechyd Meddwl.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yr hyfforddiant hwn yn cynorthwyo Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy i ymarfer yn effeithiol wrth asesu defnyddwyr gwasanaethau sy'n wynebu'r broblem gymhleth hon.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Dydd
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk