Anhwylderau Ymennydd Organig a'r Ddeddf Iechyd Meddwl
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Ymarferwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy yng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro
Beth yw'r amcanion?
- Archwilio a deall yr anhwylderau ymennydd organig mwyaf cyffredin, eu cyflwyniad a'u heffaith ar swyddogaeth gwybyddol, gweithredol a chymdeithasol
- Deall a chodi ymwybyddiaeth o niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol a'r effeithiau posibl ar ymarfer a phenderfyniadau gyda'r grŵp hwn
- Adnabod ac archwilio anghenion ac effeithiau cyfathrebu ar weithrediad gweithredol a gwneud penderfyniadau ar gyfer unigolion y mae Anhwylderau Niwrowybyddol Organig yn effeithio arnynt
- Dealltwriaeth o sut mae'r Côd Ymarfer a chyfraith achos yn llywio'r Ddeddf Iechyd Meddwl ac asesiad galluedd meddyliol ar gyfer y grŵp defnyddwyr gwasanaeth hwn
- Ymwybyddiaeth o faterion asesu a rheoli risg gyda'r unigolion hynny sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn cydfodoli
- Archwilio ymddygiadau, cyflwyniadau a materion eithrio cymdeithasol cyffredin sy'n gysylltiedig ag anhwylderau niwrowybyddol
- Cynyddu ymwybyddiaeth o sut y gallai materion cydraddoldeb ac amrywiaeth a hawliau dynol fod yn berthnasol ac archwilio materion ymarfer gwrthwahaniaethol
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Gall ystod eang o ffactorau effeithio ar les gwybyddol a chymdeithasol unigolion ac mae'r sesiwn undydd hon yn canolbwyntio ar effaith anhwylderau ymennydd organig, y cyfeirir atynt yn fwy diweddar hefyd fel anhwylderau niwro-wybyddol, ar iechyd meddwl unigolion a'r hyn y dylid ei ystyried wrth gymhwyso 'amgylchiadau cyfan' adran 13 yn y broses asesu YIMC. Mae'r sesiwn diweddaru YIMC undydd hon wedi'i chynllunio i ddiweddaru gwybodaeth cyfranogion, trwy ystyried sefyllfa bresennol y dystiolaeth sydd ar gael a dyfarniadau cyfraith achos, gan rhoi cyfle i fyfyrio gyda chyfoedion ar themâu a allweddol wrth asesu anghenion a risgiau cymhleth a lluosog.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk