Asesiad Risg o fewn Dull sy'n Seiliedig ar Gryfderau

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff gwaith cymdeithasol sy'n gweithio mewn Timau Adnoddau Cymunedol, Timau Ysbytai a'r Tîm Dilyniant ac Effeithlonrwydd. Bydd ceisiadau'n cael eu derbyn gan dimau eraill sy'n cynnig gwasanaeth i oedolion ac yn cael eu cadw ar restr wrth gefn tan ddyddiad cau'r cwrs.

Beth yw'r amcanion?

Nod y cwrs hyfforddi yw datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i weithio gyda risg mewn modd atebol y gellir ei amddiffyn wrth gyflawni canlyniadau'r unigolyn.
Yn benodol, bydd yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • Esbonio a dangos sut i gymhwyso'r Ddeddf Galluedd Meddyliol, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a deddfwriaeth a gweithdrefnau cysylltiedig eraill wrth asesu risg.
  • Archwilio gwneud penderfyniadau y gellir eu hamddiffyn.
  • Archwilio defnyddio dull cymryd risgiau cadarnhaol mewn perthynas ag oedolion sydd â galluedd ond y mae'n ymddangos eu bod dan orfodaeth.
  • Nodi sut i fanteisio i'r eithaf ar gryfderau a lleihau meysydd lle mae anawsterau i gefnogi dull cymryd risgiau cadarnhaol sy'n arwain at ganlyniadau cadarnhaol i'r unigolyn.
  • Archwilio rhagfarn staff a ffyrdd o wirio am benderfyniadau gorfodol, amddiffynnol wedi'u rheoli.

 

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant yn cefnogi cyfranogwyr i weithio'n effeithiol gyda risg wrth gyflawni canlyniadau'r unigolyn.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Dydd

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk