Awtistiaeth, Syndrom Asperger a Chamddefnyddio Sylweddau
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Staff gwaith cymdeithasol yn y Tîm Camddefnyddio Sylweddau. Bydd lleoedd dros ben yn cael eu cynnig i staff yn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, y Timau Cymunedol Anableddau Dysgu, ac yn y Gwasanaeth Anableddau 0-25.
Beth yw'r amcanion?
Datblygu gwybodaeth cyfranogwyr am y cydberthynas rhwng awtistiaeth, Syndrom Asperger a chamddefnyddio sylweddau. Bydd y rhaglen yn cynnwys y canlynol:
- Sesiwn ddiweddaru am awtistiaeth a Syndrom Asperger
- Strategaethau cyfathrebu effeithiol
- Awtistiaeth/Syndrom Asperger a'r perygl o gamddefnyddio sylweddau
- Effaith camddefnyddio sylweddau ar bobl sydd ag awtistiaeth/Syndrom Asperger
- Awtistiaeth/Syndrom Asperger - iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau
- Triniaethau
- Strategaethau i reoli camddefnyddio sylweddau ymysg unigolion ag awtistiaeth/Syndrom Asperger
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yn cynorthwyo gweithwyr cymdeithasol i ymarfer yn effeithiol wrth gefnogi pobl ag awtistiaeth/Syndrom Asperger sydd hefyd yn camddefnyddio sylweddau
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Cost:
Dim Tâl
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk