Awtistiaeth Uwch (Gofal Cymdeithasol)
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Pob aelod o staff a allai ddod i gysylltiad â diagnosis o Awtistiaeth.
Beth yw'r amcanion?
Nod yr hyfforddiant hwn yw datblygu gwell dealltwriaeth o brofiadau ac anghenion pobl awtistig a mwy o wybodaeth am ffyrdd o gynnig cymorth effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys:
- Y problemau penodol sy'n wynebu pobl awtistig o ran gwneud synnwyr o'r byd o'u cwmpas.
- Anawsterau o ran meddwl yn hyblyg ac yn ddychmygus, ac effaith hyn ar bobl awtistig
- Y swyddogaethau a'r ystyron i bobl awtistig o ran ymddygiad a ystyrir yn "heriol”
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yr hyfforddiant yn cynnig y wybodaeth sydd ei hangen ar y cyfranogwyr i gynnig cymorth mwy effeithiol i bobl ag awtistiaeth.
Dull darparu:
Ystafell Ddosbarth
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.