Byddwch Effro - Hunan-Niweidio
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Sefydliadau'r 3ydd sector a'r sector annibynnol ar draws y rhanbarth
Beth yw'r amcanion?
Bydd y cyfranogwyr yn gallu:
- Adnabod yr amrywiaeth o ymddygiadau hunan-niweidio
- Adnabod y risgiau sy'n gysylltiedig ag ymddygiadau hunan-niweidio
- Cefnogi unigolion a theuluoedd i gynnal eu diogelwch a cheisio cymorth priodol
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Gwell gwybodaeth a hyder i adnabod ac i godi'r mater. Bydd y cyfranogwyr yn gwybod beth yw'r camau priodol i'w cymryd mewn argyfwng i gadw unigolyn yn ddiogel rhag perygl uniongyrchol i fywyd.
Byddant yn gallu helpu i ddatblygu strategaethau gydag unigolyn i leihau'r risg o ymddygiadau hunan-niweidio.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Awr
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.