Cefnogi Pobl Ifanc â phroffil Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Yr holl wasanaethau gofal plant, sefydliadau'r 3ydd sector a'r sector annibynnol ledled y rhanbarth
Beth yw'r amcanion?
Bydd y rheiny sy'n dod i'r sesiwn yn gallu:
- Cael gwell dealltwriaeth o PDA a sut mae'n ymddangos mewn pobl ifanc.
- Cydnabod y gorbryder sydd wrth wraidd yr anhwylder a darparu perthynas ac amgylchedd diogel.
- Nodi ffyrdd o addasu eu dull cyfathrebu eu hunan yn eu gwaith gyda phobl ifanc sydd â phroffil PDA
- Gwybod sut i gwblhau cynllun DIOGEL i lywio eu gwaith
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
- Gwell gwybodaeth a hyder i nodi'r mater.
- Bydd y rheiny sy'n dod i'r sesiwn yn gwybod beth yw'r cam gweithredu priodol i'w gymryd i gefnogi rhywun sydd â phroffil PDA.
- Gwell canlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
3 Awr
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.