Cyflwyniad i’r Model BUSS
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Holl staff Gwasanaethau Plant, gan gynnwys Maethu a Mabwysiadu, Gwasanaethau Anableddau Dysgu, Trydydd Sector a’r sector preifat.
Beth yw'r amcanion?
Bydd y cynrychiolwyr yn:-
- Ehangu eu dealltwriaeth o sut mae babanod a phlant ifanc yn datblygu
- Dysgu am y datblygiad sylfaenol o’r system sensorimotor a meithrin perthnasoedd
- Cynyddu dealltwriaeth o'r model BUSS mewn perthynas â thrawma datblygiadol
- Gwerthfawrogi rôl rhieni a gofalwyr fel prif asiant newid
- Clywed wrth rieni mabwysiadol am eu profiad.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd cynrychiolwyr yn teimlo'n fwy hyderus gyda dealltwriaeth ehangach wrth iddynt weithio gyda phlant a theuluoedd.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
2 ddiwrnod
Cost:
Dim tâl
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.