Defnyddio Sylweddau a Galluedd Meddyliol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn Timau Camddefnyddio Sylweddau, Timau Atgyfeirio Canolog a Thimau Cymunedol Anableddau Dysgu. Bydd ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol mewn timau eraill yn cael eu derbyn a'u cadw ar restr wrth gefn tan ar ôl y dyddiad cau.

Beth yw'r amcanion?

Bydd y cwrs hwn yn rhoi mwy o wybodaeth i gyfranogwyr am effaith camddefnyddio sylweddau, yn enwedig dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol, ar y gallu i wneud penderfyniadau. Bydd yn cynnig y deilliannau canlynol:

  • Gwell dealltwriaeth o'r berthynas rhwng defnyddio sylweddau/alcohol a galluedd
  • Mwy o hyder wrth asesu risg a'r gallu i wneud penderfyniadau gydag unigolion sy'n defnyddio sylweddau
  • Mwy o ymwybyddiaeth o'r opsiynau o ran ymyrryd mewn perthynas ag unigolion sy'n defnyddio sylweddau
  • Y gallu i nodi risgiau ac anghenion mewn perthynas â phobl a allai fod yn profi/datblygu dementia sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant yn helpu cyfranogwyr i ymarfer yn fwy effeithiol wrth gefnogi pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Dydd

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk