Diweddariad Cyfreithiol ynghylch y Ddeddf Iechyd Meddwl (Hyfforddiant ar gyfer y Tair Sir)
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy
Beth yw'r amcanion?
- Cyflwyno’r gyfraith achosion gyfredol i Weithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy, mewn perthynas â’r Ddeddf Iechyd Meddwl
- Diweddaru gwybodaeth Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy o reoliadau a chanllawiau perthnasol
- Cynnig cyfle i Weithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy archwilio materion ynghylch arfer gorau
- Fe’i hystyrir yn hyfforddiant diweddaru i Weithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy at ddibenion ailgofrestru
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd mynychu’r hyfforddiant hwn yn codi ymwybyddiaeth Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy o faterion a ddylai hysbysu eu hymarfer.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk