Dysgu Gwers o Ddyfarniadau'r Llys Gwarchod

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy a staff gwaith cymdeithasol wedi'u lleoli mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol a Thîm Anabledd 0-25 oed. Disgwylir i gyfranogwyr feddu ar ddealltwriaeth dda o'r Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Beth yw'r amcanion?

Mae achosion Deddf Galluoedd Meddyliol yn mynd i'r Llys Gwarchod pan na ellir setlo anghytundebau neu pan fydd achos mor gymhleth fel na ellir ei ddatrys trwy gyfarfodydd a thrwy gyd-drafod. Gall deall dyfarniadau'r Llys Amddiffyn gynorthwyo gweithwyr cymdeithasol wrth ddelio â materion tebyg yn eu hymarfer eu hunain. Bydd y cwrs yn cynnig cyfle i

  • Roi sylw i ystod o achosion y mae'r Llys Gwarchod wedi ymdrin â nhw.
  • Dadansoddi'r hyn y mae'r Llys Gwarchod wedi'i ddweud am ystod o faterion gan gynnwys
    • budd pennaf
    • capasiti anwadal
    • penderfyniadau annoeth
    • perthnasedd yr adnoddau sydd ar gael a gwneud penderfyniadau
    • faint o bwysau i roi ar ddymuniadau a theimladau unigolyn
    • triniaeth cynnal bywyd a thriniaeth feddygol ddifrifol
    • cyfyngu ar gyswllt â theuluoedd
  • Ymchwilio i faterion yn eu hymarfer eu hunain

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn cynorthwyo gweithwyr cymdeithasol i ymarfer yn effeithiol mewn sefyllfaoedd cymhleth pan fydd galluedd meddyliol defnyddwyr gwasanaeth yn broblem.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

6 awr yn cael eu cyflwyno dros 2 sesiwn tair awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk