Hunan-niweidio
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Staff gwaith cymdeithasol sy'n gweithio yn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol. Llefydd sbâr i gael eu cynnig i weithwyr cymdeithasol mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaeth i oedolion.
Beth yw'r amcanion?
Nod y cwrs hwn yw cynyddu hyder wrth ymgysylltu ag unigolion sy'n hunan-niweidio. Nod penodol y cwrs yw mynd i'r afael â'r canlynol:
- Datblygu dealltwriaeth am hunan-niweidio a myfyrio ar yr heriau y mae'r ymddygiad yn eu cyflwyno i staff.
- Ymatebion defnyddiol, gan gynnwys canllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Y gwahaniaeth rhwng ymddygiad hunan-niweidio a meddwl hunanladdol yn ogystal â'r cysylltiadau â risgiau posibl i rai unigolion.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar gyfranogwyr i'w cefnogi nhw i ymateb yn briodol i unigolion sy'n hunan-niweidio.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
3 Awr
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk