Hyfforddiant Diweddaru Cyfreithiol ar gyfer Aseswyr Budd Pennaf Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS).

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Aseswyr Budd Pennaf DoLS.

Beth yw'r amcanion?

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am DoLS i'r cyfranogwyr ac ystyried y goblygiadau i arferion. Bydd hyn yn cynnwys rhywfaint o gyfle i archwilio goblygiadau cyflwyno'r Trefniadau Diogelu Rhyddid. Yn benodol, bydd y cwrs yn cynnig:

  • Y wybodaeth ddiweddaraf am gyfraith achosion berthnasol
  • Sesiwn diweddaru ynghylch rheoliadau a chanllawiau perthnasol
  • Cyfle i drafod materion o ran arferion yng ngoleuni'r wybodaeth uchod

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfranogwyr i gefnogi arfer effeithiol a chyfreithlon.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk