Niwroamrywiaeth a'r Ddeddf Iechyd Meddwl
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy yn cael eu cyflogi gan Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Beth yw'r amcanion?
Nod yr hyfforddiant hwn yw datblygu gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas ag asesu unigolion sydd â niwroamrywiaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn benodol, bydd yn rhoi sylw i'r canlynol:
- Ystyr niwroamrywiaeth, gan gynnwys awtistiaeth ac ADHD, ac a ydynt yn anhwylderau meddyliol.
- Y fframwaith deddfwriaethol, gan gynnwys y Ddeddf Iechyd Meddwl a'i chysylltiad â'r Ddeddf Galluedd Meddyliol, y Deddf Hawliau Dynol a'r Deddf Cydraddoldeb.
- Cyflwyniadau cyffredin unigolion sy'n niwroamrywiol
- Yr arfer gorau wrth gefnogi pobl sy'n niwroamrywiol
- Asesu risg a gwneud penderfyniadau priodol
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yr hyfforddiant yn cefnogi ymarfer cyfranogwyr wrth wneud asesiadau o'r Ddeddf Iechyd Meddwl ar unigolion sy'n niwroamrywiol.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Dydd
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.