Perthnasau a'r Gloywydd AMHP Perthynas Agosaf

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP).

Beth yw'r amcanion?

Nod yr hyfforddiant yw adnewyddu gwybodaeth Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy am y perthynas agosaf o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Yn benodol, bydd yr hyfforddiant yn ymdrin â'r canlynol, gan ddefnyddio cyfraith achosion ddiweddar lle bo'n briodol

  • Clustnodi'r perthynas agosaf a goblygiadau camadnabod
  • Rôl a hawliau'r perthynas agosaf
  • Archwilio beth yw ystyr "rhesymol arferol" a "gwrthwynebiad"
  • Y gyfraith fel y bo'n berthnasol o ran dirprwyo rôl y perthynas agosaf
  • Y gyfraith mewn perthynas â phenodi a dadleoli'r perthynas agosaf

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant hwn yn cefnogi Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy i weithio'n effeithiol ac yn unol â'r gyfraith wrth ymdrin â materion cymhleth o ran y perthynas agosaf.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk