Rheoli Sgyrsiau Anodd (Gwasanaethau Integredig)

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Integredig

Beth yw'r amcanion?

Bydd y cwrs hwn yn darparu'r deilliannau dysgu canlynol i'r cyfranogwyr:

  • Gallu egluro'n hyderus beth yw eich rôl, y cyfyngiad a'r pwerau sydd gennych, y sail statudol ar gyfer eich ymyrraeth a hawliau a dewisiadau'r unigolyn, a gwneud hynny mewn ffordd hygyrch, broffesiynol ac empathig.
  • Y sgiliau a'r arweiniad i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol nad ydynt efallai'n croesawu eich ymyrraeth neu'n cytuno â'ch dull gweithredu.
  • Y sgil i glywed defnyddwyr y gwasanaeth yn lleisio ei barn gan ymateb i'w hanghenion tra'n parhau i gyflawni eich rôl ac ystyried cyfrifoldebau risg a diogelu.
  • Gallu cael sgyrsiau heriol gyda gweithwyr proffesiynol eraill.
  • Gwybod sut i gynllunio ar gyfer gyfleu penderfyniad neu ganlyniad i rywun nad ydynt yn dymuno, gan gynnal perthnasoedd wedyn.
  • Gwybod sut i ymateb os bydd gwrthdaro yn codi o sgwrs anodd.
  • Dealltwriaeth o dechnegau y gellir eu defnyddio os na fydd sgyrsiau'n mynd fel y dymunir gan gynnwys technegau dad-ddwysáu.
  • Deall sut i gadw eich hun ac eraill yn ddiogel.
  • Gwybod sut i ddysgu o brofiadau heriol.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd gan Weithwyr Cymdeithasol y wybodaeth a'r sgiliau i reoli sgyrsiau anodd gan fagu hyder.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk