Sgiliau Ymyriadau Hunanladdiad

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Staff gwaith cymdeithasol sy'n gweithio yn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol. Llefydd sbâr i gael eu cynnig i weithwyr cymdeithasol mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaeth i oedolion.

Beth yw'r amcanion?

Nod y cwrs hwn yw cynyddu hyder wrth ymgysylltu ag unigolion sydd â meddyliau am hunanladdiad, gan gynnwys datblygu cynlluniau diogelwch. Nod penodol y cwrs yw mynd i'r afael â'r canlynol:

  • Cymryd rhan mewn trafodaeth am feddyliau ynghylch hunanladdiad.
  • Ystyried risg hunanladdiad a sut i ymateb, gan ddefnyddio ymatebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Sgiliau ymyrryd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys datblygu cynlluniau diogelwch unigol.
  • Hunanofal wrth gefnogi rhywun sydd â meddyliau am hunanladdiad.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar gyfranogwyr i'w cefnogi i ymateb yn briodol i unigolion sy'n cael meddyliau ynghylch hunanladdiad.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

5.5 Awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk