Y Ddeddf Galluedd Meddyliol mewn Ymarfer
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae'r cwrs wedi'i anelu at Weithwyr Cymdeithasol, Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol Gofal Cymdeithasol mewn lleoliadau cysylltiedig (e.e. cartrefi gofal cofrestredig etc) sy'n dymuno datblygu'r sgiliau angenrheidiol i gynnal asesiadau sy'n benodol i amser ac sy'n benodol i benderfyniad.
Beth yw'r amcanion?
Drwy fynychu'r sesiwn hon, bydd cynrychiolwyr yn cael eu cefnogi i:
- Ddeall pam, pryd, a sut i asesu galluedd meddyliol.
- Deall materion caniatȃd cymhleth a sut i symud ymlaen mewn modd atebol, diogel a phriodol os na ellir cael caniatâd ystyrlon.
- Llunio cwestiwn cywir ar gyfer sail Asesiad Galluedd Meddyliol a gallu penderfynu a oes angen mwy nag un cwestiwn/asesiad.
- Asesu'r ymatebion a roddir gan ddinasyddion yn hyderus i lywio penderfyniad ynghylch a oes ganddynt y gallu i wneud y penderfyniad hwnnw, gan gynnwys galluedd sy’n amrywio.
- Penderfynu pwy yw'r penderfynwr mwyaf priodol ar gyfer gwneud pob penderfyniad a sicrhau bod yr ymateb yn gymesur â'r penderfyniad.
- Defnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu gwahanol a all helpu person i wneud ei benderfyniadau ei hun lle bo hynny'n bosibl.
- Gwybod pryd a pham i ofyn am gefnogaeth seiciatryddion neu weithwyr proffesiynol eraill.
- Deall pwysigrwydd cofnodi'r holl wybodaeth yn briodol ac yn unol â'r cod ymarfer a'r Ddeddf.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Mae'r sesiwn undydd hon wedi'i chynllunio i adeiladu ar yr hyfforddiant flaenorol, sef Ymwybyddiaeth o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol, gan symud y tu hwnt i ddealltwriaeth sylfaenol o'r ddeddfwriaeth i ddatblygu hyder wrth gymhwyso gwybodaeth i ymarfer a gwella sgiliau asesu o dan y fframwaith cyfreithiol hwn.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Dydd
Cost:
Dim Tâl
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.