Y Ddeddf Galluedd Meddyliol – Y Budd Pennaf
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae'r cwrs wedi'i anelu at Weithwyr Cymdeithasol, Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol Gofal Cymdeithasol mewn lleoliadau cysylltiedig e.e. cartrefi gofal cofrestredig a.y.y.b.
Beth yw'r amcanion?
Mae'r sesiwn undydd hon wedi'i chynllunio i symud y tu hwnt i ymwybyddiaeth sylfaenol o'r ddeddfwriaeth a chefnogi cyfranogwyr i gymhwyso eu gwybodaeth i ymarfer a datblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol i, ystyried ac adnabod budd pennaf, yn unol â rhestr wirio (a.4) budd pennaf Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd y cwrs hwn yn darparu'r canlyniadau dysgu canlynol i'r cyfranogwyr:
- Deall sut mae egwyddorion y DGM 2005 yn perthnasu i benderfyniadau budd pennaf.
- Ymwybyddiaeth ddyfnach o ganllawiau arfer gorau (o'r côd a chyfraith achos) sydd wrth wraidd y broses budd pennaf.
- Deall elfennau'r rhestr wirio budd pennaf, a'r wybodaeth sy'n berthnasol i lywio'r broses o wneud penderfyniadau.
- Datblygu sgiliau a strategaethau i ymgysylltu ag unigolion a'u cefnogwyr fel rhan o'r broses budd pennaf.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Dydd
Cost:
Dim Tâl
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.