Ymarfer Ymwybodol o Drawma
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Bydd staff gwaith cymdeithasol sydd wedi'u lleoli o fewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, bydd ceisiadau'n cael eu derbyn gan weithwyr cymdeithasol sydd wedi'u lleoli mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaethau i oedolion a'u cadw ar restr wrth gefn tan ar ôl y dyddiad cau.
Beth yw'r amcanion?
Nod y cwrs hyfforddi yw gwella dealltwriaeth ymarferwyr o effaith trawma a chynnig offer i'w defnyddio'n ymarferol. Mae'n cynnig y canlynol yn benodol:
- Gwybodaeth am effaith trawma ar iechyd a llesiant emosiynol a chymdeithasol.
- Archwilio'r negeseuon allweddol, y data, a'r dystiolaeth sy'n sail i ymarfer ymwybodol o drawma
- Archwilio'r gwerthoedd, yr egwyddorion a'r modelau allweddol sy'n sail i ymarfer ymwybodol o drawma
- Cyfleoedd i ddefnyddio offer ymwybodol o drawma
- Cyfleoedd i fyfyrio'n feirniadol ar ymarfer a nodi datblygiadau sy'n cefnogi ymarfer ymwybodol o drawma.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yr hyfforddiant yn cefnogi cyfranogwyr i gynnig cymorth sensitif ac effeithiol i unigolion sy'n profi iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â thrawma a materion llesiant.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Dydd
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk