Ymwybyddiaeth Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Tîm Camddefnydd Sylwedd, Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Integredig.

Beth yw'r amcanion?

  • Adnabod a defnyddio iaith a therminoleg briodol a chyfredol mewn perthynas ag ADCG/ADC
  • Ystyried arfer da / dulliau anwrthwynebus o gefnogi ymddygiad sy'n peri pryder i unigolion ag ADCG / ADC
  • Gwerthfawrogi bod dysgu ac ymchwil ym maes ADCG/ADC yn parhau a bod damcaniaethau, dulliau ac ymyriadau newydd yn parhau i godi
  • Ystyried cymryd golwg niwroamrywiol o ADCG/ADC a chyflyrau 'sbectrwm' eraill cysylltiedig neu sy'n gorgyffwrdd
  • Cael trosolwg o symptomau, cyflwyniad a phroffil unigolion ȃ diagnosis ADCG/ADC
  • Ystyried pwysigrwydd diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth ag ADCG / ADC yn hytrach na gorfodi cydymffurfiaeth
  • Dod o hyd i ddeunydd pellach a allai fod yn ddefnyddiol, gan gynnwys awduron / gwefannau a awgrymir ac ati

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd gan Weithwyr Cymdeithasol y wybodaeth a'r sgiliau i ddarparu cefnogaeth effeithiol.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk