Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Y rheiny sydd â fawr ddim dealltwriaeth/profiad o weithio ym maes materion Iechyd Meddwl sydd eisiau datblygu eu hymwybyddiaeth.

Beth yw'r amcanion?

Bydd cyfranogwyr yn:

  • Gallu disgrifio'r prif anhwylderau iechyd meddwl y gellir eu diagnosio
  • Gallu disgrifio'r prif fathau o driniaethau sydd ar gael
  • Bod yn ymwybodol o'r adrannau o'r Ddeddf Iechyd Meddwl a ddefnyddir fwyaf
  • Bod yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael a sut i atgyfeirio iddynt/cysylltu â nhw
  • Deall pwysigrwydd cynnal eu hiechyd meddwl eu hunain

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y cyfranogwyr yn gallu cefnogi'n well y rheiny sydd â materion iechyd meddwl, ac yn gallu adnabod pan fydd rhywun yn anhwylus.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

2 Awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk