Ymyrraeth Hunanladdiad

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Ymarferwyr sy'n gweithio gydag unrhyw un a allai fod mewn perygl o hunanladdiad

Beth yw'r amcanion?

Bydd y rhai sy'n bresennol yn gallu –

  • Deall y mythau a'r ffeithiau ynghylch hunanladdiad
  • Nodi ffactorau risg ar gyfer hunanladdiad, nodi arwyddion a symptomau pan fo unigolyn yn ystyried hunanladdiad
  • Cymryd camau priodol mewn argyfwng i gadw unigolyn yn ddiogel rhag perygl uniongyrchol o niwed a hunanladdiad
  • Gwybod ble i gyfeirio'r rheiny sydd mewn perygl o hunanladdiad i gael cymorth yn y tymor hir

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd gan ymarferwyr fwy o hyder i roi cymorth i unrhyw un sy'n ystyried hunanladdiad neu sy'n gwneud cynlluniau i gyflawni hunanladdiad, a hynny o ran defnyddwyr y gwasanaeth a'r boblogaeth gyffredinol, yn ogystal ag yn y gweithle.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

2.5 Awr

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.